Gwybodaeth

Cartref > Ysgol > Gwybodaeth



Croeso

Mae awyrgylch hapus a gweithgar yn yr ysgol lle mae pawb yn cael eu trin fel unigolion ac yn cael eu hadnabod a’u gwerthfawrogi gan bawb arall yn yr ysgol.

Mae amgylchfyd ddymunol yr ysgol yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer astudiaethau awyr agored sydd yn cyfoethogi profiadau cwricwlaidd y plant. Mae’r tir yr ysgol yn eang ac yn cynnwys gwrych , coed ffrwyth a dôl 
ynghyd â gwlâu ar gyfer plannu a thyfu llysiau a gweithgareddau garddio. Datblygodd yr ysgol ardal tu allan y Cyfnod Sylfaen fel bod disgyblion yn gallu gwneud gweithgareddau’n annibynnol ac yn ddiogel.

Rydym yn cynnig nifer o brofiadau tu hwnt i dir yr ysgol sydd yn datblygu hyder a sgiliau disgyblion e.e. Teithiau preswyl i Gaerdydd a Glan Llyn, teithiau cerdded yn yr ardal leol a thu hwnt a llawer iawn mwy!

Heb amheuaeth mae’r ffaith fod y Cylch Meithrin y pentref yn symud i dir yr ysgol ym Medi 2024 yn sicrhau cysylltiadau agosach rhwng yr ysgol, y plant cyn-oed ysgol a’r gymuned leol.

Gobeithir y bydd y wybodaeth o fewn y llawlyfr yn eich hysbysu am athroniaeth a threfniadaeth yr ysgol a hefyd yn hybu cydweithrediad clos a chysylltiad ystyrlon rhwng yr ysgol a’r cartref. Mae’r bartneriaeth yma’n un holl
bwysig ac wrth gydweithio gyda’n gilydd gallwn roi cymorth i bob plentyn wneud y gorau o’i allu.

Yn Ysgol Llanllyfni rydym yn darparu amgylchfyd ddiogel, hapus a threfnus lle mae plant yn datblygu parch at eraill, agweddau cyfrifol, hunan ddisgyblaeth, arferion gwaith da, parch at eu hamgylchfyd a balchder yn eu
gwaith a’u llwyddiannau. Gofynnwn i chwi fel rhieni gefnogi’r ysgol er mwyn datblygu’r agweddau hyn gan sicrhau bod eich plant yn cyrraedd yr ysgol ar amser, yn ymddwyn yn briodol bob amser, yn cael eu hannog i barchu eiddo pobl eraill ac eiddo’r ysgol, a bod yr ysgol yn cael gwybodaeth ysgrifenedig/ffôn os yw eich plentyn yn absennol neu’n hwyr.

Mae’n bwysig eich bod yn dangos diddordeb cyson yn yr hyn mae eich plentyn yn ei wneud yn yr ysgol. Bydd cyfle i chwi ddod i’r ysgol i drafod datblygiad eich plentyn. Ein nôd yw creu cymuned ofalgar a phwrpasol y gallwn oll fod yn falch ohoni. Yr wyf yn barod bob amser i dywys darpar rieni a’u plant o amgylch yr ysgol. Ffoniwch neu galwch i mewn i drefnu ymweliad er mwyn cyfarfod y staff ac ymweld â’r dosbarthiadau.

Edrychwn ymlaen i’ch cyfarfod.

Mr Peter Bridges
 

Mwy o wybodaeth:

Yn y pecyn isod, mae nifer o ffurflenni i chi ddarllen a chwblhau er mwyn i ni gael y wybodaeth fwyaf diweddar am anghenion eich plentyn yn ogystal â’ch caniatâd ar gyfer nifer o faterion diogelu plant.

Amser Dysgu Sylfaen

8:50 - 9:00: Cyrraedd yr Ysgol

9:00 - 10:30: Amser Dosbarth

10:30 - 10:45: Amser Chwarae

10:45 - 12:00: Amser Dosbarth

12:00 - 13:00: Amser Cinio

13:00 - 14:15: Amser Dosbarth

13:10: Meithrin yn Cyrraedd

14:15 - 14:30: Amser Chwarae

15:10: Amser Mynd Adref

 

Amser Adran Iau

8:50 - 9:00: Cyrraedd yr Ysgol

9:00 - 10:30: Amser Dosbarth

10:30 - 10:45: Amser Chwarae

10:45 - 12:15: Amser Dosbarth

12:15 - 13:00: Amser Cinio

13:00 - 14:15: Amser Dosbarth

14:15 - 14:30: Amser Chwarae

15:15: Amser Mynd Adref

Gwisg Ysgol ar gael yn Motif Wear UK