Y Gymuned

Cartref > Y Gymuned



Cymuned Lleol ac Ehangach

Anogir agwedd iach at ardaloedd cartref y plant gan feithrin cysylltiad agos drwy gydol y flwyddyn ysgol. Mae Cyfeillion yr Ysgol yn gyfle i rieni a staff yr ysgol gyfarfod i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol a rhai sy’n codi arian at yr ysgol. Manteisir ar gyfleoedd i ymweld â’r gymuned a gwahodd pobl i’r ysgol. Mae grwpiau o blant yn ymweld â phreswylwyr Hafod y Gest i wneud gweithgareddau amrywiol. Meithrinir cysylltiadau a busnesau er mwyn ehangu profiad y disgyblion am fyd gwaith.