Eco-Ysgol
Mae’r ysgol erbyn hyn yn rhan o brosiect ysgolion eco ble mae grŵp o ddisgyblion wedi eu hethol i warchod amgylchfyd yr ysgol. Mae’r criw o ddisgyblion yn y ‘Cyngor Eco’ yn meddwl am syniadau am sut all yr ysgol fod yn eco gyfeillgar. Mae’r ‘Cyngor Eco’ wedi llwyddo i gael holl wastraff bwyd yr ysgol i’w gompostio, ac ei ddefnyddio yn ardd yr ysgol. Byddant yn aml yn casglu ‘sbwriel o gwmpas yr ardal leol.
Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi llwyddo i dderbyn y Wobr Platinwm ers 7 mlynedd.