Mr Jones
Cartref > Newyddion > Mr Jones
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Gyda thristwch mawr, rwy’n ysgrifennu atoch i’ch hysbysu o’r newyddion trist fod Mr Geraint Wyn Jones wedi ein gadael yn gynnar bore ddoe, ar ôl cyfnod o salwch.
Bu Mr Jones yn bennaeth ar Ysgol Llanllyfni am bron i chwarter canrif – sy’n dipyn o gamp. Dros y degawdau, gadawodd argraff bositif ar gannoedd o ddisgyblion ac ar y gymuned gyfan. Roedd yn rhoi plant a staff yr ysgol o flaen pob dim, ac yn cefnogi pawb o dan ei ofal.
Mae’n debyg y bydd llawer ohonoch yn cofio ac yn trafod eich atgofion o Mr Jones dros y dyddiau nesaf. Roedd yn un oedd wrth ei fodd yn adrodd straeon ac yn mwynhau clywed hanesion pobl eraill. Doedd o ddim am adael i’r gwir ddifetha stori dda chwaith – a’i hanes fel ‘secret agent, 007’ oedd ffefryn mawr gyda’r plant!
Bydd digon o gyfle i ni gofio’r dyddiau da yng nghanol y tristwch. Byddaf fi, ynghyd â’r holl staff a gafodd y fraint o gydweithio gydag ef, yn cofio’r hwyl, y cyfeillgarwch a’r chwerthin uwchlaw popeth arall.
Byddwn yn trefnu modd i’r disgyblion fynegi eu cydymdeimlad, ac yn ystyried sut orau i goffáu ymroddiad Mr Jones mewn ffordd addas ac urddasol yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd Noson Ocsiwn y Cyfeillion yn cael ei hail-drefnu, allan o barch i deulu Mr Jones a’r rhai oedd yn agos ato.
Fel teulu Ysgol Llanllyfni, rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei deulu oll – ond yn bennaf at ei wraig, Shân, a’i blant, Anna, Cadi a Math.
Pêl-droediwr o fri, cefnogwr brwd o Lerpwl, Cymro balch, athro, arweinydd, cyfaill, gwr, tad – Ger Siop.
Yn gywir,
Mr Peter Bridges
Pennaeth Ysgol Llanllyfni